YNGLYN AG ARDAL Y PUM COPA
Pumlumon - mae'r enw'n golygu 'Pum Copa' - yw un o gopaon uchaf y Mynyddoedd
Cambriaidd yng Nghanolbarth Cymru ac mae'n tra-arglwyddiaethu ar dirwedd gogledd Ceredigion.
Mae dwy afon, yr Ystwyth a'r Rheidol, yn llifo o'r mynyddoedd
hyn trwy olygfeydd ysblennydd ac amrywiol at yr arfordir yn Aberystwyth, tra bod
trydydd afon, y Teifi, yn llifo i'r de tuag at Aberteifi.
Ers canrifoedd mae copaon gwyllt, bryniau serth, a
dyffrynnoedd dyfnion mynydd-dir Pumlumon wedi chwarae rhan bwysig fel rhwystr gwydn yn erbyn y byd tu hwnt, gan
olygu mai dyma un o ardaloedd mwyaf anhygyrch, ac o ganlyniad lleiaf adnabyddus,
Cymru. Erbyn heddiw mae'r amgylched anghysbell, heddychlon, yn ogystal â diffyg canolfanau
trefol a datblygiadau, ymhlith rhai o fanteision pennaf yr ardal.
Yn y Canol Oesoedd, rheolwyd economi'r ardal fynyddig hon gan fynachod
Abaty Sistersiaidd Ystrad Fflur. Roedd yr Abaty yn berchen ar ddarnau eang o
dir, a ddefnyddiwyd yn bennaf er mwyn ffermio defaid proffidiol,
ac elwyd ar yr afonydd a'r llynnoedd er mwyn pysgota, yn ogystal
ag ar adnoddau mwynol yr ardal. Adeiladodd y mynaich rwydwaith effeithiol o
ffyrdd, gan gynnwys yn ôl bob sôn y bont gyntaf ym Mhont-ar-fynach,
a ddaeth â phererinion i'r Fynachlog ei hun a masnachwyr o ardaloedd estron
i'r ffeiriau buddiol a gynhaliwyd bedair gwaith y flwyddyn yn Ffair Rhos.
Pan sathrwyd ar y mynachlogydd gan Harri VIII, death ardal Pumlumon yn dir ymylol wedi ei phoblogi â ffermydd ymgynhaliol a
landlordiaid absennol, lle nad oedd ymwelwyr yn mentro a chan aros
yn stond am 250 mlynedd. Yna, tua diwedd y 1700au, cafodd ei 'ailddarganfod' gan
y byd allanol. Death a'r ffasiwn am deithiau "picturesque" â'r dosbarthiadau
cymdeithasol oedd â'u bryd ar hamdden i rannau mynyddig Prydain, er mwyn syllu
ar, disgrifio, a thynnu lluniau o'r mynyddoedd, rhaeadrau, golygfeydd gwledig, ac
adfeilion hynafol.
Gan fod ganddi ei hiaith ei hun yn ogystal â hanes a diwylliant estron, i'r ymwelwyr cyntaf yma yr oedd
Cymru'n ymddangos fel gwlad tramor ecsotig, a hynny yn unlle'n fwy nac ym mryniau
Ceredigion. Er y gwahaniaeth mewn iaith, soniodd nifer o ymwelwyr am
gyfeillgarwch y bobl leol, ac am absenoldeb rhaniadau cymdeithasol fel a fodolai yn
Lloegr. Yr oedd Pont-ar-fynach, gyda'i cheunentydd a'i rhaeadrau bendigedig, yn atyniad mawr
- gan ddatblygu i fod y cyrchfan ymwelwyr cyntaf yng Nghymru i
gael ei hadeiladu at y pwrpas. Cynyddodd ei phoblogrwydd gyda
datblygiad Ystâd cynnar yr Hafod fel y tirlun "picturesque" delfrydol. Dathlwyd
yr ardal yn ngweithiau awduron teithiol, artistiaid a beirdd y cyfnod Rhamantaidd.
Mewn cyferbyniad â hyn, erbyn canol y bedwaredd ganrif ar bymtheg yr oedd llawer o ucheldir Ceredigion wedi
troi'n dirlun diwydiannol. Bu gweithfeydd mwyngloddio'n bodoli yn yr ardal erioed
- rhai'n ymestyn ei hanes yn ôl at yr Oes Efydd - ond o'r 1830au
ymlaen daeth mwyngloddio plwm yn broffidiol tu hwnt. Tyfodd pentrefi newydd, gyda nifer
o dafarndai a chymeriad ardal gororol, adeiladwyd argaeoedd er mwyn
cyflenwi pwer dwr, ac adeiladwyd rheilffordd rhwng Pont-ar-fynach a'r arfordir. Mudodd mwyngloddwyr i'r ardal o
Gernyw, Sir Efrog, a thu hwnt: gellir canfod eu henwau ar gerrig
beddau mewn eglwysi gwledig, ac mae rhai o'u disgynyddion yma o
hyd.
Daeth terfyn ar hyn i gyd gyda chau'r gloddfa olaf yn yr 1920au, a thua'r un adeg dechreuodd coedwigaeth ddarparu ffynhonnell
sylweddol o waith. Erbyn heddiw mae'r hen dipiau ac adeiladau a fu'n
gysylltiedig â'r mwyngloddio, i raddau helaeth wedi eu hamsugno yn ôl i'r tirlun,
ond mean't yn parhau i fod o ddiddordeb mawr i'r archaeolegydd
diwydiannol.
Heddiw, mae ardal Pumlumon yn
gyfuniad o'r holl haenau hanesyddol hyn mewn safle naturiol hudolus. Gallwch ymweld â
Phont-ar-fynach a mwynhau cerdded y llwybrau i grombil y ceunant, lle mae'r golygfeydd o'r rhaeadrau
wedi newid fawr ddim ers i'r ymwelwyr cyntaf eu gweld yn y ddeunawfed
ganrif. Mae adfeilion Ystrad Fflur wedi eu lleoli'n hyfryd ynghanol y bryniau, gyda gwachodfa
natur Cors Caron gerllaw - cors ucheldir sy'n oroesydd o'r Oes Iâ.
Mae tirlun hanesyddol Hafod yn cael ei adfer, ac
yma gallwch ddilyn llwybrau golygfaol sy'n eich tywys at glogwyni a rhaeadrau,
adeiladoedd prydferth a phontydd, golygfeydd ysblennydd o afonydd, dolydd, coedwigoedd a mynyddoedd.
Ym Mmhwllpeiran gerllaw, yn ogystal â nifer o safleoedd yn yr ardal, gellir mwynhau llwybrau
cyfeirbwyntiedig, ac mae yma gyflenwad diddiwedd o lwybrau cyhoeddus trwy gefn gwlad
amrywiol iawn.
Gallwch ymgyfarwyddo â hanes mwyngloddio plwm trwy brofiad
ymarferol, gan gynnwys taith tanddaearol, yn Amgueddfa Llywernog. Cewch eich tywys yn
hamddenol heibio i olygfeydd anhygoel ar hyd ochrau serth Dyffryn Rheidol gan reilffordd
stem/ager gul Dyffryn Rheidol, a adeiladwyd er mwyn cludo mwynau a choed ym 1902.
Ar gyfer y rhai hynny sydd yn well ganddynt ffurfiau mwy egnïol o
deithio, ceir dau lwybr beicio mynydd gwych ger Bwlch-Nant-yr-Arian, gyda rhagor ar y
gweill, a theithiau ar hyd lonydd tawel ar gyfer beicwyr confensiynol.
Ar gyfer pysgotwyr, darparir dewis eang o safleoedd gan lynnoedd mynyddig
naturiol, hen byllau mwyngloddio, argaeoedd cynllun hydro-electrig Rheidol, yn ogystal ag afonydd
a nentydd, sy'n cynnig un o'r cyfleoedd gorau yn y wlad ar gyfer pysgota brithyll.
Gyda chymaint o gynefinoedd, mae ardal Pumlumon gyfan yn baradwys ar gyfer gwylwyr
adar, a gall hyd yn oed yr unigolyn lleiaf profiadol ddysgu sut i
adnabod ein aderyn godidocaf, y Barcud Coch. Er mwyn cael golwg agos ohonynt,
gallwch fynychu'r sesiwn bwydo barcudiaid ym Mwlch-Nant-yr-Arian.
|