Ble i Aros
Mae'r gwyliau perffaith yn dibynnu ar ddewis y lle
perffaith i aros - ac yn ardal Pumlumon - Pum Copa ceir dewis arbennig o lety. Ar gyfer unigolion mwy anturus ceir safleoedd gwersylla hygyrch sydd
wedi eu lleoli'n dda. Mae Meysydd Carafanau, sy'n llawn gwasanaethau, yn atyniadol ac
yn cynnig rhyddid i'r teulu ar gyfer gwyliau byr neu arhosiad
hir. Mae gwyliau mewn Ffermdai yn cynnig profiad hyfryd o fywyd
gwledig; mae Tai Aros teuluol yn estyn croeso cynnes Cymreig
i westeion, tra bod Gwestai sefydledig yn mynd i drafferthion mawr
er mwyn bodloni'r gwesteion mwyaf chwaethus.
Beth bynnag eich dewis o wyliau, naill ai'n weithgareddol, yn hamddenol,
neu'n cael eich mwytho, mae Pumlumon yn aros i'ch croesawu.
Carafanau a Gwersylla
Croesawir carafnwyr a gwersyllwyr ar safleoedd sydd wedi eu lleoli a'u gwasanaethu'n dda, ac sy'n
cynnig rhyddid i grwydro a mwynhau Canolbarth Cymru fel y dymunoch. Lleolir Parciau
Gwyliau a Phreswyl yn wych er mwyn mwynhau'r cefn gwlad cyfagos
a'r golygfeydd ysblennydd.
Llety.
Ceir dewis gwych o lety trwy gydol y flwyddyn. Rhoddir croeso
cynnes gan ffermdai sy'n cynnig Gwely a Brecwast cartrefol, a
chynigir ystod eang o wasanaethau gan Dai Aros. Cynigir llety a gwasanaeth llawn
gan Westai mawr a bach, hanesyddol neu draddodiadol, a chanddynt falchder
haeddiannol yn eu henw da am fwyd da.
Am fwy o fanylion, ewch at Llety, Meysydd Carafanau a Safleoedd Gwersylla Ar y Map Deithio
|
© Twristiaeth Pentir Pumlumon.
Mae ar y safle hwn angen Internet Explorer 5 neu Netscape Navigator 7, yn ogystal â Macromedia Flash Player 6.
Nantinet 
.